Thursday 4 March 2010

4 - The Fall

Dy galon drom dan gysgod - dy gariad
Dy golled annatod
Enaid gwyw heb fyw, heb fod
Yn crwydro'r byd heb wybod

Saturday 20 February 2010

3 - Ei mab

Ei annwyl wên ysblennydd - ei ddoniau
A'i ddwylo bach dedwydd
Un bach dwt i'w gwtsio'n glyd
A'n llenwi â llawenydd

Tuesday 16 February 2010

2 - Priodas

Eu Chwerthin ddathlwn fis chwefror - dwy law
Na ddidolir rhagor

Llywiant ddyfroedd llonydd fôr
A chariad glân eu hangor

i Hannah ac AJ ar eu priodas 06/02/2010
For Hannah & AJ on their wedding 06/02/2010

Friday 12 February 2010

1 - Ei Llais

Ei Llais

Clywch alawon llon y llwyn - ei llais
A'i llyw mor addfwyn
Sisial pêr y sêr a swyn
Y gwenyn gyda'r gwanwyn

Her Voice

Sweetest songs you softly sing
Words that dance with gentle grace
They whisper secrets like the stars
And touch with summer's warm embrace